top of page

ABERYSTWYTH LAW & CRIMINOLOGY JOURNAL

Canllawiau Cyflwyno

Darllenwch y canllawiau cyflwyno yn ofalus cyn anfon unrhyw waith.

Mae’r siwrnal yn croesawu cyflwyniadau yn Gymraeg a Saesneg.

Anfonwch unrhyw erthyglau i’n cyfeiriad e-bost gyda’r llinell pwnc ‘Submission Piece’.

 

Wrth gyflwyno, atodwch dudalen clawr gan gynnwys:

  • Eich enw

  • Cyfeiriad e-bost

  • Eich cwrs

  • Flwyddyn academaidd

  • A yw’r cyflwyniad yn un gyfreithiol neu droseddeg.

 

Byddwn ond yn ystyried un darn o waith gan bob awdur.

Ni fyddwn yn derbyn unrhyw draethodau a baratowyd ar gyfer asesiad cyn cyflwyniad a marcio.

 

Paratoi Cyflwyniadau

Dylai cyflwyniadau a gyflwynir yn electronig cael eu hanfon mewn fformat MS Word.

 

Erthyglau

Dylai’r rhain fod ddim fwy nag 10,000 o eiriau (heb gynnwys troednodiadau). Dylai pob erthygl gynnwys crynodeb o 200 o eiriau gyda o leiaf chwe allweddair.

 

Sylwadau

Mae’r rhain yn sylwadau ar achosion a sylwadau ar ddiwygiadau Gyfreithiol/cynigion. Dylai fod ddim fwy nag 2000 o eiriau.

​

Cyfeirnodau

Dylai pob cyfeirnod o fewn cyflwyniadau gydymffurfio â steil OSCOLA neu Harvard.

 

Trosedd hawlfraint, llên-ladrad neu doriadau eraill o arfer gorau mewn cyhoeddiadau

Mae Siwrnal Gyfraith & Throseddeg Aberystwyth yn cymryd materion o dorri hawlfraint, llên-ladrad neu doriadau eraill o arfer gorau mewn cyhoeddiadau yn difrifol iawn. Rydym yn ceisio diogelu enw da'r siwrnal yn erbyn camarfer.

 

Gyda golwg ar lên-ladrad rydym yn cadw’r hawl i gymryd camau, gan gynnwys, ond nod yn gyfyngedig i: wrthdynnu’r erthygl (ei thynnu o’r siwrnal); codi’r mater gyda phennaeth yr ysgol a gwahardd yr awdur rhag cyhoeddi yn y siwrnal.

 

Datgan buddiannau sy’n gwrthdaro

Rhaid datgan unrhyw fuddiannau sy’n gwrthdaro’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

bottom of page