top of page

ABERYSTWYTH LAW & CRIMINOLOGY JOURNAL

Wobr Ern Nian Yaw 

Cafodd ein siwrnal gyntaf ei gyhoeddi yn 2014 ac roedd ymdrechion Ern Nian Yaw, un o’r prif olygyddion ar yr adeg, yn rhagorol ac yn haeddiannol o glod. Roedd ei ymrwymiad i’r prosiect, ei ysfa i’w weld wedi cwblhau i safon uchel, ei moeseg gwaith syfrdanol, a’i sylw at fanylion, yn rhagorol a chwaraewyd rhan elfennol yn sicrhau llwyddiant ein cyhoeddiad agoriadol. Roedd yr agweddau yma wedi pario gyda phersonoliaeth cynnas, cyfeillgar ag annwyl a basiodd ymlaen i bawb o’i amgylch. Felly roedd yn bleser i weithio ag Ern a dilyn ei esiampl. Gyda thristwch mawr, ni welodd Ern y ffrwyth o’i gyfraniad i gyhoeddiad gyntaf y siwrnal helpodd i sefydlu. Yng Ngorffennaf 2014, fuan cyn ei gyhoeddi, gyda mawr tristwch roedd Ern yn rhan o ddamwain traffig a gymerodd ei fywyd. Roedd ei golled yn wirioneddol drasig a deimlwyd gan bawb a oedd yn rhan o’r siwrnal ag Adran Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth ei hun.

Wrth symud ymlaen, cytunwyd pawb a oedd yn rhan o gynhyrchu’r siwrnal fod angen gwneud fwy i gofio Ern ag i sicrhau fod Ern yn parhau i fod yn rhan o’r siwrnal ei hun. Gyda hyn mewn golwg crëwyd y wobr Ern Nian Yaw, a fydd yn cael ei wobrwyo i awduron erthygl gorau gyfraith a throseddeg a geith eu cyhoeddi o fewn y siwrnal pob flwyddyn. Fydd yn cael ei wobrwyo i’r awduron sydd yn arddangos yr union rinweddau a oedd gan Ern: gallu academaidd rhagorol, moeseg gwaith gwych, a llygaid am fanylion.

 

Ein gobaith yw y gall Ern a’r wobr yma eich ysbrydoli chi fel y mae o wedi ein hysbrydoli ni.

 

Derbynwyr:

​

2021

Akrivi-Marina Roumpou (Understanding the Motivations for Knife Carrying by British Adolescents and Their Implications on Knife Crime Prevention)

​

2019

Nabilah Zubaidi (Child Pornography in Malaysia: Issues of concern in the Sexual Offences Against Children Act 2017)

​

2018 

Ryan Morgan (The Interpretation of Justice in Relation to Mass Atrocities and Human Rights Violations)

​

2015 

Jack Hickling (The Abandonment of Proportionality: A Critical Analysis of S.43 of the Crime and Courts Act 2013) and Catrin Stephenson (Littering: The Cinderella of Criminology)

bottom of page